15 Chwefror 2022

 

Mick Antoniw AS 
 Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Annwyl Mick

Fframweithiau cyffredin a chyfraith yr UE a ddargedwir: cais am ragor o wybodaeth

Hoffem ddiolch i chi a'ch swyddogion am eich tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor ar 31 Ionawr 2022.

Nodwn eich bod wedi cytuno i ysgrifennu ar y gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a chyfraith yr UE, ac ym mha fodd y byddech chi a Llywodraeth Cymru’n gweld y materion hyn yn cael eu rheoli a – lle bo angen – pa waith craffu cyhoeddus a gwybodaeth gyhoeddus a fydd ar gael.

At hynny, byddem yn ddiolchgar pe gallech ddarparu rhagor o wybodaeth mewn perthynas â’r materion canlynol gyda’ch gohebiaeth ddisgwyliedig:

Y cynnydd o ran y rhaglen fframweithiau cyffredin

Mewn gohebiaeth â ni ym mis Tachwedd 2021, dywedoch y byddai’n 'ddelfrydol' pe byddai’r gwaith o graffu ar y fframweithiau cyffredin a’u cymeradwyo yn digwydd cyn dechrau’r cyfnod cyn-etholiadol yng Ngogledd Iwerddon. Yn sgil oedi wrth gyhoeddi fframweithiau, nid yw'r amserlen hon yn realistig, erbyn hyn. Rydym yn croesawu eich ymrwymiad parhaus i beidio â chwblhau fframweithiau cyffredin hyd nes y bydd pwyllgorau wedi cael cyfle i gynnal gwaith craffu.

1.          Rydym o'r farn ei bod yn gam sylweddol ymlaen o ran tryloywder bod y rhan fwyaf o fframweithiau cyffredin dros dro, bellach wedi'u cyhoeddi. A fyddech chi cystal â chadarnhau a ydych yn disgwyl y bydd yr holl fframweithiau cyffredin yn cael eu cyhoeddi – ar ffurf dros dro, o leiaf – erbyn bod Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cael ei ddiddymu, ac eithrio’r fframweithiau ar gyfer cydnabod cymwysterau a gwasanaethau proffesiynol?

Tryloywder ac atebolrwydd

Fe wnaethom eich holi ynghylch sicrhau bod y Senedd a rhanddeiliaid yn gallu deall fframweithiau cyffredin, a’u heffaith ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Rydym yn croesawu eich ymatebion  ynghylch y canlynol yn fawr:

§    hysbysu’r Senedd pan fo deddfwriaeth yn ymwneud â fframwaith cyffredin;

§    hysbysu’r Senedd pan fydd anghydfod ynghylch fframwaith cyffredin yn cael ei gyfeirio at Weinidogion;

§    hysbysu’r Senedd a rhanddeiliaid pan fydd fframwaith cyffredin yn cael ei adolygu, a dwyn eu hargymhellion i ystyriaeth cyn i’r broses adolygu ddod i ben; a

§    chyhoeddi adroddiadau blynyddol ar bob fframwaith cyffredin unigol.

2.         A fyddech chi cystal â chadarnhau y bydd Gweinidogion Cymru yn cadw at yr ymrwymiadau hyn, ac yn nodi’n ysgrifenedig y prosesau y byddwch yn eu dilyn?

At hynny, fe wnaethom holi ynghylch bodloni eich ymrwymiad yn y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol i ‘gael tudalen ddynodedig ar ei gwefan yn cynnwys gwybodaeth am gytundebau rhynglywodraethol ffurfiol, fframweithiau cyffredin,  concordatiau,  memoranda ac unrhyw benderfyniadau eraill y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno arnynt.’ Fe wnaethoch esbonio y byddai fframweithiau terfynol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

3.         O ystyried bod fframweithiau cyffredin wedi bod ar waith ers dros flwyddyn bellach, rydym yn ystyried nad yw hyn yn ddigon tryloyw. Rydym o’r farn y dylid sefydlu tudalen o’r fath cyn gynted â phosibl, hyd yn oed os ydych yn ystyried ei bod o fudd i ddarparu dolenni i wefan Llywodraeth y DU hyd nes bod y fframweithiau wedi’u cwblhau. A fyddwch chi cystal â chadarnhau’r dyddiad y disgwyliwch i hon fod ar gael?

Gwneud penderfyniadau a datrys anghydfodau

Buom yn trafod sut y bydd y pedair llywodraeth yn gwneud penderfyniadau ac yn datrys anghydfodau drwy fframweithiau cyffredin.

4.         Yn gyffredinol, nid yw fframweithiau cyffredin yn darparu ar gyfer cynnwys rhanddeiliaid yn rheolaidd mewn prosesau gwneud penderfyniadau rhynglywodraethol. A fyddech chi cystal ag egluro'r rhesymau dros y dull hwn? Sut fyddwch hi’n hysbysu rhanddeiliaid yn rheolaidd am drafodaethau rhynglywodraethol drwy fframweithiau cyffredin?

5.         Mae rhai fframweithiau cyffredin yn darparu ar gyfer gohirio’r broses o lunio deddfwriaeth neu bolisi hyd nes bod y pedair llywodraeth wedi cytuno ar sut i symud ymlaen. Pa risgiau ydych chi wedi'u nodi o  ran y dull hwn?

6.         A oes unrhyw un o bolisïau neu fentrau Llywodraeth Cymru wedi’u gohirio oherwydd y broses fframweithiau cyffredin?

Materion trawsbynciol

Buom yn trafod y cytundeb rhynglywodraethol ar y broses ar gyfer cytuno ar eithriadau o Ddeddf y Farchnad Fewnol mewn meysydd fframwaith cyffredin, a’r cytundeb ar destun safonol ar gyfer fframweithiau cyffredin ar rwymedigaethau rhyngwladol a chytundebau rhwng y DU a’r UE. Byddem yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth ynghylch y modd y bydd y prosesau hyn yn gweithio'n ymarferol.

Deddf Marchnad Fewnol y DU

7.         A yw Llywodraeth Cymru yn ceisio – neu a yw’n bwriadu ceisio – unrhyw eithriadau drwy’r broses ar gyfer cytuno ar eithriadau o’r Ddeddf Marchnad Fewnol, mewn meysydd fframwaith cyffredin?

8.         A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi cais Llywodraeth yr Alban am eithriad o’r Ddeddf at ddibenion deddfwriaeth plastigau untro?

9.         Pa egwyddorion neu dystiolaeth fyddai Llywodraeth Cymru yn dibynnu arnynt pe bai’n ceisio eithriad?

10.        A fyddai Llywodraeth Cymru yn debygol o geisio am eithriadau eang o feysydd polisi cyfan, neu eithriadau o eitemau penodol o ddeddfwriaeth?

11.        Wrth pa gam yn y datblygiad polisi neu’r broses ddeddfwriaethol fyddai Llywodraeth Cymru yn ceisio eithriad?

12.        A yw Llywodraeth Cymru yn fodlon hysbysu’r Senedd a rhanddeiliaid pan fydd yn ceisio eithriad?

13.        A ydych yn ystyried y dylai fframweithiau terfynol gyfeirio at y broses eithrio?

Y Bil Rheoli Cymorthdaliadau

14.        Pa bryderon – os o gwbl – sydd gennych am effaith Bil Rheoli Cymorthdaliadau’r DU ar unrhyw fframweithiau cyffredin?

Y Bil Cymwysterau Proffesiynol

15.        A oes gennych unrhyw bryderon am effaith y Bil Cymwysterau Proffesiynol ar unrhyw fframweithiau cyffredin?

Rhwymedigaethau rhyngwladol

16.        Nodoch fod y DU yn wynebu anawsterau o ran rhwymedigaethau rhyngwladol. A fyddech chi cystal â rhoi manylion unrhyw anawsterau yr ydych wedi’u nodi sy’n deillio o rwymedigaethau rhyngwladol, yn enwedig mewn meysydd datganoledig neu mewn meysydd sy’n effeithio ar Gymru?

17.        Mae’r testun y cytunwyd arno ar rwymedigaethau rhyngwladol ar gyfer fframweithiau cyffredin yn awgrymu y bydd fframweithiau’n seiliedig ar Goncordat Cysylltiadau Rhyngwladol wedi’i ddiweddaru, ar ôl i’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol ddod i ben. A oes cynlluniau i ddiweddaru’r concordat hwn, ac a ydych chi o’r farn bod unrhyw risgiau os na chytunir ar goncordat wedi’i ddiweddaru?

18.        Mae’r testun y cytunwyd arno ar rwymedigaethau rhyngwladol yn nodi y bydd y llywodraethau’n ystyried unrhyw oblygiadau sy’n deillio o fasnach ryngwladol sy’n effeithio’n uniongyrchol ar weithrediad y fframwaith cyffredin. A ydych chi o’r farn bod hyn yn rhoi cyfranogiad digonol i Lywodraeth Cymru yn y broses o drafod cytundebau masnach rhyngwladol mewn meysydd fframwaith cyffredin?

Rhwymedigaethau'r DU a’r UE

19.        Mae’r testun y cytunwyd arno mewn rhai fframweithiau cyffredin yn disgrifio’r ddarpariaeth ar gyfer presenoldeb Llywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd a sefydlwyd gan fframwaith sefydliadol y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad rhwng y DU a’r UE. Sut fyddwch chi’n sicrhau y bydd timau polisi Llywodraeth Cymru mewn meysydd fframwaith cyffredin yn cydgysylltu â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd rhwng y DU a’r UE?

20.       Mae testun y cytunwyd arno ar Brotocol Gogledd Iwerddon yn nodi, os bydd y gyfraith mewn maes fframwaith cyffredin yn newid yng Ngogledd Iwerddon yn rhinwedd y Protocol, y bydd y pedair llywodraeth yn ystyried goblygiadau’r newid hwnnw ym Mhrydain Fawr ac a ddylid cymryd camau. Wrth pa gam ym mhroses ddeddfwriaethol yr UE y bydd y pedair llywodraeth yn gwneud hynny?

21.        Mae rhai rhanddeiliaid yng Ngogledd Iwerddon wedi codi pryderon ynghylch y graddau cyfyngedig y mae fframweithiau cyffredin yn ystyried cysylltiadau trawsffiniol ar ynys Iwerddon. Pa ystyriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ei rhoi i’r mater hwn wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo fframweithiau cyffredin?

Newidiadau i statws cyfraith yr UE a ddargedwir

Gwnaethoch nodi eich ymateb cychwynnol i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i ddeddfu ar statws cyfraith yr UE a ddargedwir.

22.       Beth yw eich asesiad o’r graddau y mae newid statws cyfreithiol y corff o gyfraith yr UE a ddargedwir o fewn cymhwysedd datganoledig, wedi’i ddatganoli?

23.       A ydych chi o’r farn bod angen newid statws y gyfraith honno? Os felly, pam y dylid ei newid, a sut y dylid gwneud hynny? Os nad, pam felly?

24.       Mae Llywodraeth y DU wedi nodi cynlluniau i alluogi diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir yn gyflymach. A fyddech chi cystal â chadarnhau y bydd unrhyw newidiadau o’r fath mewn meysydd fframwaith cyffredin yn cael eu rheoli drwy fframweithiau cyffredin?

Dargyfeirio o gyfraith yr UE yn y dyfodol

Dywedoch y dylai Llywodraeth Cymru gadw safonau’r UE o leiaf, a bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal safonau a gwella arnynt. At hynny, gwnaethoch gadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’r newidiadau arfaethedig i gyfraith yr UE ar waed, meinweoedd a chelloedd oherwydd bod dull ar y cyd ar gyfer y DU yn cael ei ffafrio. Yn eich gohebiaeth gyda ni ym mis Tachwedd, dywedoch nad oes gan Lywodraeth Cymru “fecanwaith canolog” i fonitro gwahaniaethau rhwng cyfraith yr UE a chyfraith Cymru. 

25.       Heb fecanwaith canolog, sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cyfraith yr UE er mwyn dysgu am a deall gwahaniaethau a allai ddatblygu rhwng cyfraith Cymru a chyfraith yr UE?

26.       Pa asesiad ydych chi wedi’i wneud o’r risgiau y bydd dargyfeiriad anwirfoddol neu ‘oddefol’ yn datblygu rhwng cyfraith yr UE a chyfraith Cymru?

27.       Ar ba sail ydych chi’n asesu a fyddai dull gweithredu ar y cyd â rhannau eraill o’r DU – gan gadw i’r funud â chyfraith yr UE – neu ddeddfwriaeth Gymreig benodol yn well?

28.       Sut fydd eich dull yn amrywio mewn gwahanol feysydd, er enghraifft meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru neu feysydd sy’n ddarostyngedig i ddarpariaethau sefyllfa gydradd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu?   

29.       A ydych chi o’r farn bod unrhyw risgiau y gallai gwneud penderfyniadau ar y cyd drwy fframweithiau cyffredin amharu ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i wella safonau?

Byddem yn ddiolchgar petai ymateb i’r cwestiynau hyn yn dod i law erbyn 1 Mawrth.

Yn gywir,

Huw Irranca-Davies
Cadeirydd